Hysbysiad Preifatrwydd Dysgwyr
Beth yw Hysbysiad Preifatrwydd?
Mae’r hysbysiad preifatrwydd yma yn esbonio sut mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (“y Ganolfan”) yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.
Pa wybodaeth fydd y Ganolfan yn ei chasglu?
- Gwybodaeth bersonol: eich enw, rhywedd, ethnigrwydd, cyfeiriad, dyddiad geni
- Gwybodaeth iechyd: unrhyw broblemau yn ymwneud ag iechyd neu anawsterau dysgu sydd gennych
- Gwybodaeth cwrs: os ydych wedi cwblhau Cwrs Dysgu Cymraeg o’r blaen a’ch perfformiad ar y cwrs
Sut rydym yn defnyddio'ch data personol
Bydd y Ganolfan yn prosesu eich gwybodaeth at ddibenion:
- Eich ymrestru ar gwrs a dyrannu darparwr i chi
- Darparu cefnogaeth yn ystod eich amser ar y Cwrs ac wedi hynny (lle bo angen)
- Rhedeg y cwrs o ddydd i ddydd
- Monitro cwblhau a chynnydd ar y cwrs
- Adrodd ar bresenoldeb a sut mae’r cwrs yn mynd
- Rhannu gwybodaeth am gyrsiau eraill gyda chi
O ble bydd y Ganolfan yn casglu gwybodaeth?
- Gwybodaeth a roddwch i’r Ganolfan - bydd y Ganolfan yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol gennych pan fyddwch yn cysylltu â’r Ganolfan neu pan fyddwch yn ymrestru trwy’r Ffurflen Gofrestru ar un o’r cyrsiau.
- Gwybodaeth o’r adnoddau yr ydych yn eu cwblhau ar-lein
- Gwybodaeth mae’r Ganolfan yn derbyn gennych gan y darparwr.
- Gwybodaeth mae’r Ganolfan yn derbyn gennych o ffynonellau eraill megis tiwtor eich cwrs.
Y sawl fydd yn derbyn eich gwybodaeth
Cyllidir y Ganolfan a’r darparwyr cwrs gan Lywodraeth Cymru. Er mwyn eich dyrannu i ddarparwr penodol, sicrhau bod y cyrsiau yn cael eu rhedeg yn effeithiol, darparu adborth am faint sy’n cymryd y cyrsiau ac i adrodd am y modd y defnyddir y cyllid, gallwn rannu eich data personol gyda’r darparwr.
Gall y Ganolfan rannu eich gwybodaeth bersonol:
- Gyda’r Darparwyr;
- Gyda Llywodraeth Cymru;
- Gyda CBAC at ddibenion cofrestru ar Arholiadau Dysgu Cymraeg i Oedolion
- Gyda chyflogwyr at ddibenion y Cynllun Cymraeg Gwaith
- Gydag awdurdodau rheolaethol, llysoedd ac asiantaethau’r llywodraeth i gydymffurfio â gorchmynion cyfreithiol, gofynion cyfreithiol neu reolaethol a cheisiadau’r llywodraeth; a/neu
- Gyda’n hymgynghorwyr a gwerthuswyr cyfreithiol a phroffesiynol eraill.
Sut ydym yn cadw’ch gwybodaeth yn ddiogel?
Rydym yn storio eich data yn ein systemau TG diogel. Dim ond unigolion sydd angen mynediad at y dibenion a amlinellir uchod sy’n gallu cael mynediad i’ch data personol.
Oes modd cwiro unrhyw wybodaeth?
Oes, os credwch fod unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir, rhowch wybod i ni a byddwn yn ei chywiro.
Oes modd cael copi o'ch gwybodaeth bersonol?
Oes, gallwch wneud ‘cais am fynediad deiliad data’ sy’n eich galluogi i dderbyn copi o’r data personol sydd gennym amdanoch.
Am ba mor hir y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?
Bydd y Ganolfan yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn unig am y cyfnod o amser y byddwch yn fyfyriwr ar y cwrs ac am 6 blynedd wedi cwblhau’r cwrs hwnnw.
Sut allwch chi gysylltu â ni?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod:
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
03003234324
swyddfa@dysgucymraeg.cymru