Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyrsiau Codi Hyder 

Iechyd a Gofal

Gwybodaeth

Siarad Cymraeg ond eisiau mwy o hyder i ddefnyddio’r iaith yn y gwaith?

Mae'r Ganolfan yn cydweithio gyda sefydliadau iechyd ar draws Cymru i gynnig cynllun hyblyg wedi ei deilwra i'ch anghenion chi.

Cynnwys y cynllun
  • Holiadur a sgwrs gychwynnol i ddeall pam dych chi wedi colli hyder yn y Gymraeg
  • Sesiynau Mentora Iaith 1:1
  • Cyfleoedd i ymarfer siarad Cymraeg mewn grwpiau paned a sgwrs 
  • Cymorth wedi ei deilwra i chi – e.e. geiriau a brawddegau dych chi eu hangen yn y gwaith 
  • Cefnogaeth gan eich cyflogwr i gymryd rhan yn y cynllun

Eisiau gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael yn eich sefydliad chi? Dewiswch y botwm isod er mwyn cysylltu.

Cynnwys y cynllun

Pam dilyn cwrs codi hyder?

Cyrsiau codi hyder Nant Gwrtheyrn

Mae cyrsiau preswyl ar gyfer staff y gwasanaeth iechyd a gofal yng Nghymru wedi eu trefnu yn Nant Gwrtheyrn:

  • 7-11 Hydref 2024
  • 10-14 Mawrth 2025

Mae'r cyrsiau am ddim, ac yn addas i weithwyr sy'n gallu siarad Cymraeg ar lefel Canolradd, Uwch a Gloywi.

Dewiswch y botwm isod am fwy o wybodaeth.

Cofrestru diddordeb

Eisiau gwybodaeth am gyrsiau codi hyder yn eich bwrdd iechyd, neu yn Nant Gwrtheyrn? Llenwch y ffurflen isod er mwyn cysylltu. 

Ffurflen

Cytuno i'r ymwadiad preifatrwydd (Mae modd darllen hwn ar waelod ein gwefan). Agree with privacy statement (This can be read at the bottom of our website). *